Dwi wedi dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl ers diwedd fy arddegau, wrth i mi ymrafael ag iselder, gorbryder, ac anhwylder bwyta.
Yn dilyn sawl blwyddyn o fwlio, doedd gen i braidd dim hunan-barch, ro’n i’n poeni am sut oeddwn i’n edrych a'm pwysau, yn poeni am ddelio â'r pethau sy'n cael eu gwneud o ddydd i ddydd ac yn teimlo'n gwbl ddiwerth ar adegau."Roedd gorbryder yn fy nghaethiwo felly doedd dim modd i mi fwynhau unrhyw fywyd cymdeithasol ac roedd fy mywyd yn dywyll, yn ddiobaith ac yn unig oherwydd fy iselder."Wrth ddechrau gweithio’n llawn amser yn y GIG yn 18 oed, dwi'n gallu cydnabod bod y problemau iechyd meddwl hynny a’r brwydrau hynny wedi parhau.
Ro’n i'n unig, yn isel fy ysbryd ac yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i'r hyder i gymryd rhan mewn llawer o weithgareddau.Fe wnaeth hyn barhau am sawl blwyddyn, ac er i mi ddatblygu yn fy ngyrfa, ychydig o fywyd oedd gen i y tu allan i’r gwaith.
Read more on mind.org.uk