Roeddwn i’n cael nosweithiau digwsg, hunllefau, ymosodiadau o bryder a phanig.Roedden nhw wedi dweud wrthym yn ystod ein hyfforddiant y byddai pob un ohonom yn cael un alwad a fyddai’n sefyll gyda ni, a honno oedd fy un i.Ar ôl wythnos o beidio â theimlo’n iawn, doedd gen i ddim dewis ond siarad lan.
Dywedais wrth fy mos yn gyntaf fy mod i ofn mynd i’r gwaith a bod yn yr un fan ble digwyddodd y cyfan. Rhoddodd fi mewn cysylltiad â’r Gwasanaeth Ambiwlans a wnaeth fy nghyfeirio at y tîm Rheoli Digwyddiad Trawma.
Roeddwn i’n teimlo fy mod yn wan, ac nad oeddwn yn ddigon da i’r swydd. Roeddwn i hefyd yn teimlo’n euog ac y gallwn i fod wedi gwneud rhagor neu fod yn gryfach.Ar ôl ychydig o ddyddiau cefais fy sesiwn Trawma gyntaf.
Read more on mind.org.uk