mind.org.uk
84%
248
Sut mae cerdded miloedd o filltiroedd yn fy helpu i ac yn helpu Mind
Helo, James ydw i a dwi'n cerdded arfordir Prydain i Mind! Dechreuais i’r daith ar 3 Hydref, gan gychwyn o fy nghartref yng Ngogledd Cymru i arfordir Caernarfon. Dwi wedi cadw'r môr ar yr ochr dde i mi am dros 1,400 o filltiroedd, gan fynd tua'r de ar hyd glannau Cymru ac i lawr i Lwybr Arfordir y De Orllewin. Dydy'r tywydd ddim wedi bod yn garedig i mi ar bob adeg, ac mae fy nghoesau i’n dal i fod yn deneuach na rhai Ryan Reynolds, ond mae'r daith gerdded wedi bod yn un o brofiadau gorau fy mywyd. Yn sicr, bu llawer o heriau.